Datblygu gwres a phwer cynaliadwy, sy’n llosgi biomàs o goedlan cylchdro byr yng Nghymru

 
     

Marchnadoedd ar gyfer Coedlan Cylchdro Byr

Mae tair marchnad botensial ar gyfer coedlan cylchdro byr yn y DU:

  • Boeleri gwresogi pren neu foeleri sy’n cyfuno gwres a phwer, ar raddfa fach, fel arfer hyd at 2 MWth
  • Gorsafoedd pwer biomàs penodedig canolig eu maint, fel arfer 5-20 Mwe
  • Gorsafoedd pwer glo presennol, fel arfer 1000-4000MW

Boeleri gwresogi pren neu foeleri sy’n cyfuno gwres a phwer, ar raddfa fach

Mae’r diwydiant tanwydd pren modern yn seiliedig ar systemau sglodion a phelenni, sy’n lân ac yn effeithlon, yn ogystal â bod yn ddeniadol eu golwg. Gall gwresogi tanwydd pren amrywio o 15KWth, hyd at 1MWth. Cynllunnir y systemau i redeg yn rhwydd gydag ychydig iawn o gynnal a chadw. Gellir gwresogi y rhan fwyaf o adeiladau gan ddefnyddio tanwydd pren. Mae CHP (gwres a phwer cyfun) yn cynnig modd i gynhyrchu gwres a phwer o un ffynhonnell. Mae hon yn dechnoleg effeithlon iawn sy’n aeddfed a hir sefydledig. Mae CHP ar raddfa fach fel arfer yn trawsnewid tua 30% o’r tanwydd mewnbynedig yn drydan a 50% yn wres. Mewn rhai amgylchiadau gellir gwerthu unrhyw drydan dros ben yn ôl i’r grid.

Enghraifft:

Sefydlwyd y Cynllun Busnes Ynni Pren (WEBS) er mwyn darparu grantiau Cyfalaf i roi hwb i’r diwydiant yng Nghymru. O’r holl dechnolegau ynni, tanwydd pren a gafodd yr effaith bositif fwyaf sylweddol ar gyflogaeth ac incwm i gymunedau cefn gwlad a hybu rheoli coetiroedd cynaliadwy. Disgwylir i WEBS wella bywydau cymunedau cefn gwlad ac mae’n cynnig cyfleoedd arallgyfeirio ac adnewyddu, yn enwedig yn y sectorau amaethyddiaeth a choedwigaeth.

Gorsafoedd pwer biomàs penodedig canolig eu maint

Mae nifer cynyddol o foeleri biomàs penodedig yn cael eu hadeiladu ar draws y wlad. Cynllunnir y rhain yn benodol i losgi biomàs a gallant dderbyn tanwydd coedlan yn y ffurf y caiff ei gynaeafu o’r cae. Bydd angen ar foeler biomàs arferol o thua 5 MWe 30,000 odt/flwyddyn, neu 3,750ha/flwyddyn (gan gymryd cynnyrch o 8 odt/ha/fl).

Enghraifft:

Gorsafoedd pwer glo presennol

Mae rhai gorsafoedd pwer glo traddodiadol eisoes yn cyd-danio biomàs (ee blawd llif melinau llifio, gwaddodion olewydd) gyda glo fel canran bychan o gyfanswm y mewnbwn gwres i’r orsaf (fel arfer 1%-5% neu thua 60,000-300,000 odt o biomàs/fl). Adeiladwyd y dechnoleg ar y gorsafoedd hyn i losgi glo maluriedig yn hytrach na thanwydd cymysg. Er mwyn cyd-danio pren gyda glo, mae’n rhaid malurio’r pren i gynnyrch tebyg i flawd llif (gyda’r gronynnau fel arfer yn 5 mm o ran maint). Mae gofynion deddfwriaethol yn golygu y bydd rhaid i orsafoedd pwer sy’n cyd-danio biomàs ar ôl
31 Mawrth 2009 ddefnyddio cnydau ynni fel y nodir isod.

Enghraifft: Mae RWE npower yn defnyddio gwastraff pren fel rhan o’r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy ac mae’n ceisio cynnwys biomàs o gnydau ynni er mwyn cwrdd â gofynion deddfwriaethol.

Deddfwriaeth yn ffafrio’r defnydd o gnydau ynni ar gyfer cynhyrchu pwer

Mae’r trydan a gynhyrchir o biomàs mewn gorsaf benodedig neu a gaiff ei chyd-danio â glo yn “adnewyddyn cymwys” o dan y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy ac mae’n derbyn Tystysgrif Ymrwymo i Ynni Adnewyddadwy (ROC) ar gyfer pob 1 MW a gynhyrchir. Gellir cyfnewid ROCau, gan roi o bosib “premiwm gwyrdd” ar gyfer trydan adnewyddadwy. Mae’r ddeddfwriaeth Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yn gosod gofyniad ar gyflenwyr trydan i dderbyn cyfran cynyddol o’u
cyflenwad o ffynonellau adnewyddadwy (o thua 3% yn 2003, yn codi i 10% yn 2010) ac mae’n un o declynnau polisi allweddol y Llywodraeth ar gyfer lleihau gollyngiadau CO2.

Bydd rhaid i orsafoedd pwer glo sy’n llosgi biomàs dderbyn 25% o’r biomàs o gnydau ynni o 1 Ebrill 2009. Ar 1 Ebrill 2010 ac 1 Ebrill 2011, mae hyn yn cynyddu i 50% ac yna 75% yn eu tro. Mae’r gofyniad ar gyfer 75% o gnydau ynni yn parhau tan 31 Mawrth 2016 pan fydd rhaid i’r holl gyd-danio biomàs ddod i ben. Gallai hyn olygu gofyniad cnydau ynni ar gyfer gorsaf pwer glo arferol o 15,000-75,000 odt /fl yn 2009, yn codi i 45,000-225,000 odt/ fl o 2011 ( yn dibynnu ar % cyfanswm y biomàs sy’n cael ei gyd-danio cyn 2009).

Nid oes gan orsafoedd pwer biomàs penodedig yr un gofynion deddfwriaethol i losgi cnydau ynni, ond gall fod amodau ynghlwm wrth grantiau cyfalaf y gallant dderbyn gan y llywodraeth yn ymwneud â’r defnydd o rai cnydau ynni.