![]() |
||
|
Cynnydd Mae’r prosiect wedi plannu 20 ha o helyg ar dair fferm fasnachol eisoes eleni. Plannwyd yr ardaloedd gyda chymysgedd trylwyr o Tora, Tordis a Sven ( a gyflenwyd gan Agrobransle) ac Ashton Stott, a fridiwyd gan Orsaf Ymchwil Long Ashton, sydd bellach yn rhan o Rothamsted Research, a Resolution, a fridiwyd gan y Bartneriaeth Bridio Helyg Ewropeaidd (a gyflenwyd gan Murray Carter Ltd).
Anelwn at blannu 20 ha arall yn 2005 ar bedwar safle arall ar draws ystod o uchderau a phriddoedd yng Nghymru. Er mwyn canfod yr amrywiaethau cywir i Gymru, sefydlwyd prawf o 15 amrywiaeth yn IGER yn 2003 a thri phrawf yn cynnwys set arall o 15 amrywiaeth ar ystod o uchderau. Gweler y tyfiant yn y 6 mis cyntaf Byddwn hefyd yn gweithio’n agos â BEGIN: Biomass for Energy Genetic Improvement Network a gydlynir gan Rothamsted Research. |
|